Newyddion Cyngor Cymuned Llanllyfni
Rhagfyr 2020
Ceisiadau am Gymorth Ariannol
Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.
Bydd angen anfon llythyr cais yn nodi defnydd o’r cymorth ariannol, ynghyd a chyflwyno Mantolen Ariannol gyfredol at y Clerc:
Nia Jones, Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB
neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com
Dyddiad cau’r ceisiadau: 31 Ionawr 2021
Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.
Tachwedd 2020
Digwyddiadau Cofio yn ystod y cyfnod atal Coronafeirws
Mae Sul y Cofio yn ddiwrnod o fyfyrio a phan mae nifer o bobl yn cymryd amser i dalu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod gwrthdaro milwrol.
Oherwydd Coronafeirws, mae'n anochel y bydd Sul y Cofio ychydig yn wahanol eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau sy'n nodi y caniateir i ddigwyddiadau Cofio gael eu cynnal yn yr awyr agored ar 7 neu 8 Tachwedd. Ni chaniateir gwasanaethau o dan do neu gorymdeithiau.
Caniateir i hyd at uchafswm o 30 o unigolion, gan gynnwys trefnwyr y digwyddiad, ymgynnull yn yr awyr agored a gallant gymryd rhan mewn seremoni Cofio. Bydd gan y rhai sy'n trefnu’r digwyddiad ddyletswydd gofal i'r rhai sy'n mynychu i'w wneud mor ddiogel â phosib a chadw at y canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a hylendid.
Mae tîm Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn ysgrifennu at gynghorau cymuned, tref a dinas ledled Gwynedd, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o reoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin#section-53846
Hydref 2020
Holiadur Anghenion Tai Penygroes
Mae Cymdeithas Dai Grŵp Cynefin wedi adnabod darn o dir gyferbyn a Maes Dulyn ym Mhenygroes gellir ei ddefnyddio ar gyfer datblygu tai fforddiadwy. Mae Grŵp Cynefin yn awyddus awyddus i ddod i wybod beth yw’r sefyllfa dai yn ardal Penygroes. Mae map o’r safle wedi ei gynnwys isod.
Pwrpas yr holiadur yw darganfod beth yw’r angen am dai yn yr ardal hon, os oes angen, a pha fath o dai sydd angen eu hangen arnoch chi. Mae’r holiadur hefyd yn rhoi cyfle i chi nodi eich barn am unrhyw ddatblygiad posib yn eich ardal chi.
Mae modd cwblhau’r holiadur drwy ddilyn y ddolen isod. Ni ddylai’r holiadur gymryd dim mwy ‘na 10 munud i chi ei gwblhau. Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau’r holiadur erbyn Dydd Gwener, Hydref 23, 2020.
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.
Medi 2020
Hysbysiad penodi dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.
Gorffennaf 2020
Seddi Gwag Achlysurol - Wardiau Penygroes a Talysarn
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o seddi gwag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn wardiau Penygroes (1 sedd) a Talysarn (1 sedd) ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.
Cynhelir etholiad i lenwi’r seddi gwag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward perthnasol i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 14 Awst, 2020.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y seddi gwag gan y Cyngor Cymuned.
Clerc y Cyngor
27 Gorffennaf 2020
Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanllyfni
DEDDF CYRFF CYHOEDDUS (EU DERBYN I GYFARFODYDD) ADRAN 1(4)A
O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, ATODLEN 12, PARAGRAFF 26(2)(a)
Yn unol a gofynion y darpariaethau statudol uchod, RHODDIR HYSBYSIAD FELLY y cynhelir CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED LLANLLYFNI, ar ddydd Mawrth, 14eg o Orffennaf 2020 am 7.00 y.h.
Alwen Johnson,
Clerc y Cyngor
07.07.20
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.
Ionawr 2020
Gwahoddir ceisiadau am swydd Clerc i Gyngor Cymuned Llanllyfni.
Lleoliad: Cyfarfodydd Pwyllgor ac Is-bwyllgor misol ym Mhenygroes yn ogystal a chyflawni y gwaith gweinyddol o’ch cartref.
Oriau Gwaith: 15 awr yr wythnos.
Prif Ddyletswyddau: Presennol ymhob cyfarfod Cyngor, cadw cofnodion, gweithredu fel Swyddog Ariannol y Cyngor a Swyddog Claddu i fynwentydd y Plwyf, cadw’n ddiogel holl ddogfennau y Cyngor, adrodd i’r wasg a chyfryngau a goruchwylio dyletswyddau contractwyr. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Cyflog: £10.97 yr awr - Graddfa 21 (pro rata). Pensiwn a chyfraniad tuag at gostau ffôn a rhyngrwyd yn ogystal.
Dyddiad Cau: Pymthegfed o Chwefror 2020, 5.00 y.h
This is an advert for a Clerk for the Llanllyfni Community Council – the ability to speak welsh is essential.
Am fwy o fanylion a swydd ddisgrifiad cysylltwch a’r Cadeirydd, Mr Barry Bracegirdle, ar:
E-bost: barrybrace@live.co.uk
Ffôn: 07881 870 088
Mehefin 2019
Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr - cyfrifon y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2019
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.
WARD TALYSARN
SEDD WAG ACHLYSUROL
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Talysarn ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.
Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 28 Mehefin, 2019.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.
Alwen Johnson
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 10 Mehefin 2019
Mai 2019
Cyfarfod Blynyddol 2019 Cyngor Cymuned Llanllyfni
yn Festri Capel Soar Penygroes, ar nos Fawrth, 14eg o Fai 2017 am 7.00 y.h
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.
Mawrth 2019
WARD TALYSARN
SEDD WAG ACHLYSUROL
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Talysarn ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.
Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 22 Mawrth, 2019.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.
Alwen Johnson
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 4 Mawrth 2019
Awst 2018
Seddi Gwag Achlysurol - Ward Talysarn
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o 2 sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Talysarn ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.
Cynhelir etholiad i lenwi’r dwy sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad gan ddeg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Llun,3 Medi, 2018.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y seddi gwag gan y Cyngor Cymuned.
Alwen Johnson
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 13 Awst 2018
Rhagfyr 2017
Ceisiadau am arian
Bydd ceisiadau am arian yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod y Cyngor fis Chwefror - croesawir ceisiadau gan fudiadau.
Ceisiadau drwy lythyr os gwelwch yn dda, a rhaid cofio bod angen copi cyfredol o'r cyfrifon i gyd-fynd â'r cais er mwyn cael ei ystyried.
Cynghorwyr Sir
Diolch i'r Cynghorwyr Judith Humphreys a Craig ab Iago am eu hadroddiadau cynhwysfawr i'r Cyngor Cymuned yn ystod cyfarfodydd y Cyngor. Rhoddir gwahoddiad i'n Cynghorwyr Sir i'n cyfarfodydd misol yn rheolaidd, ac mae'r cyswllt hwn yn werthfawr.
Hydref 2017
Dorothea
Croesawyd Ffion Llwyd-Jones, Mark Billingham a Tim Heatley o gwmni 'Dorothea Lakes' i’n cyfarfod fis Hydref. Cafwyd cyfle i drafod yn anffurfiol, ac fe rannodd y perchnogion eu gweledigaeth ar gyfer cynllun hydro ar y safle gyda’r Cynghorwyr.
Trafodwyd llwybrau cyhoeddus, a’r dymuniad gan y cwmni i warchod ac adfer llwybrau ar y safle. Gofynwyd i’r Cynghorwyr drosglwyddo neges i’r cyhoedd i adrodd am unrhyw ymddygiad amhriodol i’r heddlu. Roedd y cwmni yn dweud eu bod am geisio ffyrdd i sicrhau atal ‘tombstoning’ a mynediad i adeiladau anniogel. Dywedasant fod cynlluniau arfaethedig ar gyfer rheoli diogelwch plymio ar y safle, wedi ei reoleiddio gan ddarparwyr trwydded, a chyfleusterau toiled ar gyfer pobl yn plymio.
Roedd y cwmni yn awyddus i gadw cysylltiad barhaus efo’r Cyngor Cymuned, ac yn rhagweld amserlen o rhyw 3-4 mlynedd cyn gallu cwblhau’r broses gynllunio yn gyntaf.
Mehefin 2017
Croesawyd y Cyngorydd Judith Humphreys i'n cyfarfod fis Mai - Aelod newydd dros Penygroes. Edrychwn ymlaen i gyd-weithio.
Mae'r Cyngor Cymuned wedi gwneud ymholiadau pellach am y cwtogiad yn oriau agor llyfrgell Penygroes. Bu i'r Cyngor Cymuned gytuno i gyfrannu yn ariannol er mwyn cadw oriau agor y llyfrgell, ond er hyn, mae'r oriau agor wedi eu cwtogi.
Mae cwtogiadau pellach i grant torri llwybrau cyhoeddus yn golygu bod llawer iawn llai o gyllid eleni ar gyfer y gwaith, a bydd hwn yn lleihau hyd yn oed mwy eto y flwyddyn nesaf. Byddwn yn ddiolchgar iawn i'r cyhoedd petaech yn cysylltu gyda'r Cyngor Cymuned efo manlyion unrhyw lwybrau yr ydych yn eu cerdded a pha mor aml. Rydym yn bwriadu gwneud arolwg o'r llwybrau sy'n cael eu defnyddio. Gellir ebostio ajohnson200@btinternet.com.
Mai 2017
Cyfarfod Blynyddol 2017 Cyngor Cymuned Llanllyfni
yn Festri Capel Soar Penygroes, ar nos Fawrth, 9fed o Fai 2017 am 7.00 y.h
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.
Mawrth 2017
RHYBUDD ETHOLIAD - Cyngor Gwynedd - ARFON
Etholiad Cynghorwyr Sir 4 Mai 2017
Mai 2016
Cyfarfod Blynyddol 2016 Cyngor Cymuned Llanllyfni
yn Festri Capel Soar Penygroes, ar nos Fawrth, 10fed o Fai 2016 am 7.00 y.h
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.
Ebrill 2016
Gwarchod y Gymdogaeth
Pa fath o gymdogaeth hoffech fyw ynddi?
Mae Gwarchod y Gymdogaeth yn un o'r cynlluniau atal trosedd mwyaf llwyddiannus erioed.
Nid lleihau trosedd yn unig yw nod cynllun Gwarchod y Gymdogaeth - mae'n ceisio adeiladu ysbryd cymunedol a pherthnasau da.
Hoffai'r Cyngor Cymuned dynnu sylw trigolion lleol i'r cynllun hwn.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen wybodaeth.
Ionawr 2016
Bydd y Cyngor yn trafod ceisiadau am nawdd ariannol yng nhgyfarfod y Cyngor fis Chwefror - dylid cyfeirio ceisiadau drwy lythyr at Alwen Johnson (Clerc), Mon Awel, Lon Ysgubor Wen, Caernarfon, Gwynedd, neu drwy ebost i ajohnson200@btinternet.com erbyn diwedd mis Ionawr os gwelwch yn dda. Rhaid cynnwys maentolen ariannol.
Hydref 2015
Mae’r Cyngor yn bryderus am ddyfodol adeilad y Fic ym Mhenygroes, ac yn awyddus i gynnal cyfarfod gydag Alun Ffred Jones i agor trafodaethau.
Rydym hefyd wedi gwahodd swyddog o gwmni chwarel Cae Efa Lwyd I gyfarfod y Cyngor, a gobeithio cael cyfle i’w holi cyn ddiwedd y flwyddyn.
Hoffwn dynnu sylw rhieni fod rhai plant yn chwarae yn beryglus yn Cwtin. Maent yn dringo dros y ffens a rhedeg i lawr am y lon fawr. Mae pryder am eu diogelwch.
Gorffennaf ac Awst 2015
Gwahoddwyd yr Heddlu i’n cyfarfod fis Gorffennaf i drafod materion lleol. Diolch i Julie Holland am fynychu. Roedd yn annog pobl i adrodd materion i Crimestoppers ar 0800 555 111, pa bynnag mor fychan.
Cafwyd cyflwyniad gan elusen Sylfaen Cymunedol, ar ymgynghoiad cymunedol i ddyfodol Siop Griffiths Penygroes.
Daeth Sharon Brooks o Gilgwyn i roi cylfwyniad i’r Cyngor o bryderon trigolion Cilgwyn am effaith parc solar yn eu cymuned.
Mai 2015
Swyddfa Bost
Gresyn oedd gweld fod Swyddfa Bost Penygroes wedi cau. Roedd pawb o'r Cyngor yn awyddus i drio cadw'r gwasanaeth Post yn y pentref ac yn gefnogol iawn o helpu i drio cael y Post yn ei ôl.
Baw Ci
Hoffem wneud cais i drigolion gadw llygad ar pwy sy'n gyfrifol am adael i'w cwn faeddu ar balmentydd y pentrefi. Gellir rhannu'r wybodaeth yn gwbl gyfrinachol gyda Peter Simpson o Gyngor Gwynedd.
Chwefror 2015
Mae'r Cyngor Cymuned yn ddiolchgar iawn i Grŵp Cerddwyr Caernarfon a Dwyfor am eu gwaith gwirfoddol o glirio llwybrau 1 / 4 yn Nhalysarn. Mae'r gwelliant yn un mawr, a gwerthfawr i'r Cyngor. Mae'r dull sydd mewn grym o raddio llwybrau yn golygu na fydd llwybrau o'r fath yn cael eu cynnwys ar raglen torri, ac felly mae'r math yma o waith gan wirfoddolwyr yn dod yn llawer mwy pwysig i'r dyfodol.
Ionawr 2015
Grantiau
Mae'r Cyngor Cymuned yn cael yr hawl i roi grantiau i grwpiau a sefydliadau lleol.
Fel arfer gwneir penderfyniadau am grantiau yng nghyfarfod y cyngor ym mis Chwefror. Os yw eich grŵp yn dymuno gwneud cais am grant, anfonwch fanylion eich cais i'r Clerc erbyn diwedd mis Ionawr, os gwelwch yn dda, yn cynnwys at ba ddiben y byddwch yn defnyddio'r grant, ac yn amgáu copi o gyfrifon diweddaraf eich grŵp.
Rhagfyr 2014
Cyfle i dendro am y Gytundeb Cynnal Mynwentydd a’r Cytundeb Cynnal Llwybrau am 3 mlynedd (01/04/2015 – 31/03/2018)
Dyddiad cau: 6:00 yr hwyr, Dydd Gwener, 06 chwefror 2015
Nid yw'r dogfennau ar gael rhagor gan fod y dyddiad cau wedi pasio.
Awst 2014
Gwefan y Cyngor Cymuned yn cael ei lansio
Gyda chymorth gan Gronfa Cist Gwynedd, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Cymuned Llanllyfni yn falch o gyflwyno gwefan newydd y Cyngor - www.llanllyfni.org.uk.
Byddwn yn defnyddio'r wefan i rannu gwybodaeth am waith y Cyngor Cymuned, yn ogystal â chyflwyno cofnodion cyfarfodydd y Cyngor.