Ardal Cyngor Cymuned Llanllyfni

Pwynt gwybodaeth a hanes lleol

logo-nantlledotcomMae ardal Dyffryn Nantlle yn ffodus iawn o adnodd gwerthfawr nantlle.com sydd ar gael i bawb; gwefan sydd wedi'i chreu gan grŵp o bobl leol er lles ardal Dyffryn Nantlle a'i thrigolion yn gyffredinol.

Mae nantlle.com yn cadw hanes Dyffryn Nantlle yn fyw yn ogystal â rhannu gwybodaeth am weithgaredddau, adnoddau a busnesau y Dyffryn.

Mae croeso i unrhywun gyfrannu manylion am unrhyw ddigwyddiad o fewn ardal Dyffryn Nantlle ar y safle ar unrhyw adeg er mwyn eu rhannu efo'r byd.

I ddysgu mwy am ardal Cyngor Cymuned Llanllyfni, ymwelwch â www.nantlle.com

Llwybrau cyhoeddus

Dilynwch y ddolen isod i weld map o lwybrau cyhoeddus y plwyf.